STEFFAN WILSON-JONES
Rwy’n sgwennwr, dramodydd a chyfansoddwr dwyieithog o Ddyffryn Clwyd sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Fe wnes i raddio o Brifysgol Reading yn 2019 gyda BA mewn Film & Theatre Studies, cyn astudio MA mewn Cyfarwyddo yn PCYDDS ac MA Creative Writing gyda Manchester Metropolitan University.
Rwy’n archwilio gwahanol ffurfiau o sgwennu, gyda phwyslais ar hunaniaeth Gymreig, hiwmor tywyll a satire gwleidyddol. Roeddwn yn aelod o gynllun Cynrychioli Cymru 2025-2026 gyda Llenyddiaeth Cymru a’n un o’r Writers at Work (Awduron Wrth eu Gwaith Hay Festival) yng Ngŵyl y Gelli yn 2026.
Rwyf bellach yn gweithio ar fy nofel gyntaf gyda Sebra, ac yn y cyfnod R&D o sioe gerdd newydd sbon gyda Cynyrchiadau Onnen.